CRAFF

Beth yw’r GRAFf?

 Grŵp o bobl sy’n cynnwys rhieni, athrawon a ffrindiau’r ysgol sy’n cyd-weithio i drefnu gweithgareddau cymdeithasol ac i godi arian.

Beth yw nod y GRAFf?

  • Codi arian i brynu adnoddau a fydd o fudd i’r plant sydd y tu hwnt i gyllid yr ysgol.
  • I drefnu gweithgareddau cymdeithasol i’r plant, rhieni a ffrindiau er mwyn hyrwyddo cysylltiadau â’r gymuned.

Pwy all fod yn aelodau o’r GRAFf?

 Mae unrhyw un sydd â phlant yn yr ysgol neu sy’n gweithio yn yr ysgol yn aelod.

 Sut allwn ddarganfod mwy?

Bob blwyddyn ym mis Medi mae yna gyfarfod blynyddol cyffredinol sy’n agored i’r staff a’r rhieni i gyd. Mae hwn yn gyfle da i gyfarfod â phobl am y tro cyntaf ac i glywed am waith a chynlluniau’r gymdeithas. Dewch i’r cyfarfod i glywed mwy. Bydd croeso cynnes i newydd ddyfodiaid.

Cynllunio a Threfnu

 Mewn awyrgylch anffurfiol, bydd y gymdeithas a’r aelodau yn trafod gweithgareddau a syniadau newydd. Yn y cyfarfodydd yma fe ystyrir syniadau ar gyfer codi arian. Dyma’ch cyfle chi i rannu eich syniadau.

 Byddwch yn rhan o’r GRAFf

 Gall bod yn rhan o’r GRAFf ddod â mwynhad i chi a bydd yn hyrwyddo perthynas eich teulu â’r ysgol. Bydd Mamau, Tadau, Staff a Ffrindiau’n cyfuno gan gyfrannu at awyrgylch gyfeillgar yr ysgol. Caiff bawb groeso cynnes ar unrhyw adeg, ac nid yw byth yn rhy hwyr i ymuno. Rydym bob amser yn chwilio am aelodau newydd a syniadau ffres, am gymorth i redeg stondinau mewn ffair  am hanner awr  – neu am unrhyw fath o gyfraniad.  Caiff pob cymorth ei werthfawrogi.

 Sut i gysylltu â’r GRAFf?

 Y ffordd hawsaf i gysylltu yw gadael neges yn y Swyddfa a bydd aelod o bwyllgor y GRAFf yn cysylltu nôl.

 Codi Hwyl Wrth Godi Arian

 Dros y blynyddoedd mae haelioni pawb sy’n rhan o gymuned Ysgol Griffith Jones wedi galluogi’r GRAFf i gyfrannu miloedd o bunnoedd tuag at wahanol brosiectau. Mae pobl wedi dangos creadigrwydd wrth drefnu gweithgareddau newydd ochr yn ochr â’r hen syniadau dibynadwy. Mae awyrgylch gyfeillgar yn ein cyfarfodydd ac mae croeso i bawb i ddod i dystio i’n gwaith.

 Gweithgareddau Cymdeithasol, Hwyliog

 Nid codi arian yw’r unig nod. Mae cael cyfle i gymdeithasu’r un mor bwysig ac mae’r gweithgareddau yn gyfle i blant a rhieni i greu ffrindiau newydd yn Ysgol Griffith Jones.

Mae gan y GRAFf hanes llwyddiannus dros ben o godi arian.

Mae’r llwyddiant hwn wedi ei wreiddio mewn naws o gyd-weithio fel tîm wrth godi arian ac wrth gymdeithasu. Gallwch chithau hefyd fod yn rhan o’r tîm yma.

Gweithgareddau’r presennol a’r gorffennol

Bingo Ben

Ffair Nadolig

Noson Gwis

Rasys Ceffylau

Cerdded, Seiclo, Darllen Noddedig

Sioe Ffasiynau

Disgos

Ras Hwyaid

Ffair Haf

Dawns Sant Ffolant

Criced

Noson Lawen

Ffair Greiriau

Adnoddau a brynwyd gan y GRAFf

Piano

Cluniaduron

Llyfrau Darllen

Troli Cluniaduron

Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol

Llenni i’r Neuadd

Sgrin ac Uwchdaflunydd

Allweddell

Dillad Chwaraeon

Ffrâm Ddringo i’r Iard

Teganau a Gemau i’r Iard

System Sain

Llwybr Antur a Wal Ddringo

Gwisgoedd Dawnsio Gwerin

Ein Targed Nesaf

Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol i’r Feithrinfa  – £3,000

Adnoddau Mathemateg – £2,000

Arian a godwyd gan y GRAFf – Money raised by PTFA

2011-12£3,349.32
2012-13£3,599.50
2013-14£4,208.65
2014-15£4,479.89
2015-16£4,124.35