Cwricwlwm i Gymru

Mae ein cwricwlwm wedi’i gyd-greu drwy ymgysylltu â’r holl randdeiliaid a bydd yn bodloni’r gofynion canlynol:

Ein gweledigaeth:

Yn Ysgol Griffith Jones, mae pob dysgwr yn cael mynediad i gwricwlwm sydd yn  adlewyrchu Cymru, ei threftadaeth ddiwylliannol a’i hamrywiaeth, ei hieithoedd a’i gwerthoedd,  ei hanes a’i thraddodiadau.  

  • Gwreiddiwn ein cynllunio o fewn ein cynefin gan osod seiliau ar gyfer dinasyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol.  
  • Annogwn ein disgyblion i werthfawrogi’r cyfraniad y gallan nhw ei wneud yn eu cymuned ac i ddatblygu ac archwilio eu hymatebion i faterion lleol, cenedlaethol a byd-eang.  
  • Mae’r pedwar diben wrth wraidd ein cynllunio ac wrth eu gwireddu, rydym yn gosod disgwyliadau uchel i bawb, yn hyrwyddo iechyd a lles personol ac yn annog dysgwyr i chwarae eu rhan fel dinasyddion gwybodus a chyfrifol.  
  • Rhown gyfleoedd i ddisgyblion i ddatblygu eu sgiliau o fewn pob Maes Dysgu gan ddatblygu fel dysgwyr annibynnol, creadigol a mentrus sy’n medru cymhwyso’u dysgu i sefyllfaoedd newydd.  
  • Rydym yn meithrin sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymwysedd digidol disgyblion gan alluogi dysgwyr i addasu a ffynnu yn y byd sydd ohoni. Gwrandewn ar lais ein dysgwyr gan ymateb i’w anghenion, eu profiadau a’u mewnbwn.  
  • Mae ein holl rhanddeiliaid yn rhannu’r nod o gefnogi ein dysgwyr ar hyd y continwwm dysgu gan sicrhau datblygiad eu gwybodaeth a’u sgiliau, tra’n ffynnu fel unigolion hapus ac hyderus.  

Ein gwerthoedd

  • Parch ac Ymddiriedaeth
  • Cymuned a Chynefin
  • Lles a Gofal
  • Hapusrwydd a Mwynhad
  • Gwydnwch a Hyder
  • Cymru a Chymreictod
  • Mentro ac Arloesi
  • Cefnogaeth a Chydweithio

Ein cwricwlwm cynhwysol

Bydd ein cwricwlwm yn codi dyheadau pob dysgwr. Fel ysgol rydym wedi ystyried sut y bydd pob dysgwr yn cael ei gefnogi i wireddu’r pedwar diben ac i symud ymlaen. Rydym wedi ystyried ein darpariaeth ADY a sut y byddwn yn bodloni anghenion gwahanol grwpiau o ddysgwyr.

Y pedwar diben

Y pedwar diben yw’r man cychwyn a’r dyhead ar gyfer  ein cynllun cwricwlwm ysgol. Nod ein hysgol yw cefnogi ein dysgwyr i ddod :

  • yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
  • yn gyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig

Bydd ein cwricwlwm yn darparu cyfleoedd a phrofiadau i ddatblygu’r cysyniadau, gwybodaeth a sgiliau allweddol fel y’u disgrifir yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ac yn unol â’r Cod Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig.

Meysydd Dysgu a Phrofiad

Bydd ein cwricwlwm yn darparu profiadau dysgu drwy’r 6 Maes Dysgu a Phrofiad o:

  1. Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  2. Celfyddydau Mynegiannol
  3. Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  4. Dyniaethau
  5. Mathemateg a Rhifedd
  6. Iechyd a Lles

Dysgu, Dilyniant ac Asesu

Bydd ein cwricwlwm yn cefnogi dysgu trwy ddylunio cyfleoedd dysgu sy’n tynnu ar yr egwyddorion addysgegol.

Mae ein cwricwlwm, a ategir gan addysgu a dysgu effeithiol, yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd ystyrlon. Dros amser bydd ein dysgwyr yn datblygu a gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth. Mae ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddeall beth mae’n ei olygu i wneud cynnydd mewn Maes neu ddisgyblaeth benodol a sut y dylai dysgwyr ddyfnhau ac ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, eu sgiliau a’u galluoedd, a’u priodoleddau a’u tueddiadau, ac mae’n cael ei lywio gan y Cod Cynnydd. Mae hyn yn ei dro yn cefnogi ein hymagwedd at asesu, a’i ddiben yw llywio cynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Bydd asesu yn cael ei wreiddio fel rhan gynhenid ​​o ddysgu ac addysgu. Bydd pob dysgwr yn cael ei asesu ar fynediad i’r ysgol.

Iaith

Mae’r Cyfnod Sylfaen yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg ac yn defnyddio’r Gymraeg i gyflwyno’r cwricwlwm. Cyflwynir gwersi Saesneg ym Mlwyddyn 3.

Sgiliau trawsgwricwlaidd

Bydd ein cwricwlwm yn datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Bydd ein cwricwlwm yn galluogi dysgwyr i ddatblygu cymhwysedd a gallu yn y sgiliau hyn a’u hymestyn a’u cymhwyso ar draws pob Maes. Bydd dysgwyr yn cael cyfleoedd ar draws y cwricwlwm i:

  • datblygu sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu
  • gallu defnyddio rhifau a datrys problemau mewn sefyllfaoedd go iawn
  • bod yn ddefnyddwyr hyderus o ystod o dechnolegau i’w helpu i weithredu a chyfathrebu’n effeithiol a gwneud synnwyr o’r byd

CCUHP – Hawliau Plant

Bydd ein hysgol yn hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Ran 1 o CCUHP, ac o CCUHP, ymhlith y rhai sy’n darparu addysgu a dysgu.

CWRE : profiadau sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd a gwaith

Bydd ein cwricwlwm yn ymgorffori gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith ar gyfer ein holl ddysgwyr.

Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ACRh

Mae ein cwricwlwm ysgol yn cofleidio’r arweiniad yn y Cod ACRh. Bydd gan ein darpariaeth Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb rôl gadarnhaol a grymusol yn addysg ein dysgwyr a bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth eu cefnogi i wireddu’r pedwar diben fel rhan o ymagwedd ysgol gyfan. Sylfaen ACRh yw helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal ystod o berthnasoedd, i gyd yn seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a pharch. Mae’r perthnasoedd hyn yn hanfodol i ddatblygiad lles emosiynol, gwydnwch ac empathi.

CGM : Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Mae crefydd, gwerthoedd a moeseg (CGM) yn ofyniad statudol o’r Cwricwlwm i Gymru ac mae’n orfodol i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed.

Nid oes hawl gan riant i wneud cais i dynnu plentyn o wersi CGM yn y Cwricwlwm i Gymru

Gan fod CGM yn bwnc a bennir yn lleol, mae’r maes llafur cytûn yn nodi’r hyn y dylid ei addysgu mewn CGM o fewn yr awdurdod lleol a bydd ein cwricwlwm yn adlewyrchu’r canllawiau hyn.

Adolygu a mireinio

Bydd ein cwricwlwm ysgol yn cael ei adolygu’n barhaus er mwyn ymateb i allbynnau ymholi proffesiynol, anghenion cyfnewidiol dysgwyr a chyd-destunau ac anghenion cymdeithasol. Bydd yr adolygiadau’n ystyried barn rhanddeiliaid ac yn cael eu cymeradwyo gan y Corff Llywodraethol. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’n cwricwlwm ac yn adolygu’r crynodeb os gwneir newidiadau i’r cwricwlwm yn ystod y broses adolygu.

——————————————————————————————————————————————————————————————————————————

DATBLYGU MEDDWL AC ASESU AR GYFER DYSGU

Yn 2009 gwahoddwyd Ysgol Griffith Jones gan APADGOS i gymeryd rhan yn yr rhaglen Gymreig. Cadarnhaodd hyn yr ysgol i fod yn “Ysgol Meddwl” gan ei bod eisioes wedi derbyn hyfforddiant mewn rhaglenni “Dewch i Feddwl” a “Came”. 

Dechreuodd APADGOS (Yr Adran Plant,Addysg,Dysgu Gydol Oes a Sgiliau) y rhaglen Datblygu Meddwl ac Asesu ar Gyfer Dysgu yn 2005.Ffocysodd y rhaglen ar ddatblygu, gweithredu a lledaenu arfer dda, yn y dysgu o ddatblygu meddwl ac asesu ar gyfer strategaethau dysgu. 

Prif nod y rhaglen yw i:

  • gwella perfformiad
  • bod y dysgwr yn cymryd mwy o ran yn eu dysgu
  • newid arfer y dosbarth felly yn gwella’r addysgu
  • cynyddu’r nifer o wersi creadigol.

Gelir ystyried y broses gyfan o ddatblygu meddwl yn broses gylchol fel bod yr hyn a ddysgwyd o fyfyrio yn gallu bwydo’n ol i’r dasg nesaf. 

Datblygu meddwl – cylchol y dysgwr. 

Dylid nodi bod “meddwl am feddwl”( metawybyddiaet) wrth wraidd pob math o ddysgu; mae’n rhaid i ddysgwyr ddadbacio ei meddwl er mwyn gwerthfawrogi’r strategaethau y maent wedi’u defnyddio i ddysgu,cymathu’r dysgu sydd wedi digwydd a chysylltu’r dysgu a chyd-destun newydd. Hwn yw’r cynhwysyn hanfodol sy’n gwneud y dull dysgu yn un cylchol. 

Yn Ysgol Griffith Jones, er mwyn gweithredu’r egwyddorion meddwl yn rhesymol, defnyddiwn ystod o strategaethau meddwl ag offer meddwl. Esiampl o’r offer cyson yw:

  • 2 Seren a Dymuniad
  • Y Goeden Gwestiynau
  • Y Gadair Goch
  • Byrddau Gwyn

Fel rhan o’r strategaethau byddwn yn – cynyddu amser i feddwl a dim dwylo i fyny, 

Esiampl o’r offer a ddefnyddiwyd yw map cysyniad, llinellau ffawd, siart KWL, graffiau byw a rhestru diemwnt. 

Gall ddatblygu asesu ar gyfer dysgu ei osod mewn tri maes sef:- cwestiynu, darparu adborth i ddysgwyr ag asesiad cyfoedion a hunanasesiad. Eto defnyddiwyd ystod o offer ar gyfer asesu. 

Mae manteision y rhaglen yn amlwg wrth i’r disgyblion gymryd fwy o ran yn eu haddysg, hybu eu dysgu a meddwl i fod yn fwy gweithredol a llunio cyfleon iddynt fyfyrio, felly yn eu creu yn ddysgwyr annibynnol. Mae dysgwyr Ysgol Griffith Jones yn fwy pendant wrth gynnig barn, gwell cyfathrebwyr ac yn unigolion hunan hyderus.