Cysylltiadau Ewropeaidd

Ffurfiwyd partneriaeth ‘Comenius’ rhyngom ni ac ysgolion yn Awstria, Sbaen, Iwerddon, Twrci a phartner lleol sef Ysgol Gynradd Llangynnwr yn Sir Gaerfyrddin.

Dewiswyd WISTA yn enw ar y project gan ddefnyddio llythyren gyntaf pob gwlad. Nod y fenter oedd codi a datblygu ymwybyddiaeth disgyblion a staff o’r dimensiwn Ewropeaidd ar lefel lleol a chenedlaethol trwy wneud gweithgareddau ar y cyd gyda’r gwledydd yn y partneriaeth wedi’u ffocysu ar wahaniaethau a thebygrwydd diwylliannol gan gynnwys ein hieithoedd a’n traddodiadau.

Mae’r ystod o weithgareddau a gwblhawyd wedi cynorthwyo disgyblion a staff i fod yn fwy ymwybodol o fywyd yn y gwledydd dan sylw a’u galluogi i wneud cymariaethau, ac yn ogystal ffocysu ar ddiansyddiaeth Ewropeaidd.

Defnyddiwyd rhaglen Moodle i alluogi pob partner i lwytho a lawrlwytho deunydd a baratowyd er mwyn ei rannu o fewn yr ysgol, yn ogystal a bod yn fodd i gyfathtrebu gyda’n gilydd i sicrhau bod trefniadau ynglyn a’r teithiau a drefnwyd a dyddiadau ar gyfer y gweithgareddau yn cael eu gwireddu.

Dros y ddwy flynedd ddiwetha teithiodd nifer o’r staff i’r ysgolion yng ngwledydd ein partneriaid a chael y cyfle i arsylwi ar ddulliau addysgu a threfniant dyddiol yn y gwledydd yma. 

Penllanw’r project oedd y Farchnad Rhyngwladol pan fu pob dosbarth wrthi yn trefnu arddangosfa doreithog o nifer o agweddau gan gynnwys traddodiadau, bwydydd nodweddiadol, enwogion, dyddiadau pwysig a chip ar ieithoedd y bedair gwlad. Daeth nifer helaeth o rieni ac aelodau o’r gymuned i weld y gwaith a blasu’r bwyd a baratowyd gan y plant. Roedd yn llwyddiant ysgubol.