Grant Datblygu Disgyblion

Datganiad Grant Datblygu Ysgol Griffith Jones

Dyrennir y Grant Datblygu Disgyblion i ysgolion â disgyblion sy’n dod o deuluoedd incwm isel ac y gwyddys eu bod ar hyn o bryd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim (e-FSM) a disgyblion sydd wedi derbyn gofal yn barhaus am fwy na chwe mis (LAC).

Disgwylir i ysgolion ddefnyddio’r cyllid hwn i’r eithaf i gyflwyno strategaethau cynaliadwy fydd yn arwain yn gyflym at newidiadau i ddysgwyr sy’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim neu sy’n LAC.

Fel ysgol rydym wedi cytuno ar y tri cham a ganlyn:

  • nodi’r grŵp targed o ddisgyblion, ei nodweddion a’i anghenion
  • cynllunio ymyraethau sy’n gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau
  • monitro a gwerthuso effaith adnoddau

Yn 2022-23 rhoddwyd i Ysgol Griffith Jones ddyraniad Grant Amddifadedd disgyblion o £33,350. 

Yn 2022-23 rhoddwyd i Ysgol Griffith Jones ddyraniad Grant Datblygu Disgyblion Blynyddoedd Cynnar Amddifadedd disgyblion o £8,050.   

Yn Ysgol Griffith Jones mae gennym gynllun cynhwysfawr, sydd wedi’i gytuno a’i fonitro gan Awdurdod Lleol Sir Gaerfyrddin ac ERW, i hyrwyddo cynnydd a chael gwared ar rwystrau i ddysgu i fyfyrwyr sy’n gymwys ar gyfer y cyllid hwn.

Rydym wedi defnyddio’r cyllid sydd ar gael i: 

  • wella dysgu ac addysgu drwy ddarparu rhaglen gefnogi – CHATT
  • darparu rhaglenni ymyrraeth a chymorth y profwyd eu bod yn cael yr effaith fwyaf a’u bod yn gynaliadwy
  • darparu hyfforddiant penodol o safon uchel i staff ysgolion, yn cynnwys CHATT
  • cyflwyno a defnyddio systemau olrhain data i nodi anghenion dysgwyr, targedu ymyraethau a monitro effaith.
  • gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion eraill, y gymuned a sefydliadau eraill
  • gwella presenoldeb y grŵp targed drwy ddefnyddio ymyraethau
  • datblygu capasiti arweinyddiaeth i flaenoriaethu’r effaith ar ansawdd y ddarpariaeth a’r  canlyniadau
  • i dysgwyr a’u teuluoedd drwy sicrhau adnoddau darllen, cerddoriaeth a TGCH da.