Ysgol Griffith Jones

Ein gweledigaeth – Mae Ysgol Griffith Jones yn anelu i ddefnyddio’r technolegau esblygiadol fel cyfrwng i wella’r dysgu heb gyfyngiadau.  

Mae Ysgol Griffith Jones yn cynnig rhai o’r adeiladau ac adnoddau gorau mewn uhrhyw Ysgol Gynradd yn Sir Gaerfyrddin. Mae’r Feithrinfa yn cynnig darpariaeth gwych i blant dan bump.Mae’r Neuadd, y llwyfan a’r llwyfan symudol yn rhoi cyfleon i ddatblygu gwaith drama ac i gynnal nosweithiau cymdeithasol. Mae’r meysydd chwarae eang yn cynnig safle gwych i ymarfer gwahanol weithgareddau ym myd mabolgampau.Yn ogystal mae Campfa enfawr yn rhoi cyfleon i blant i ymarfer gymnasteg, symud, pel rwyd, pel fasged, dawns, athletau a badminton. Agorwyd llyfrgell newydd sbon yn Ebrill 2012 i ateb gofynion darllen y plant.  

Mae yna ddwy ffrwd yn yr ysgol 

Ffrwd Gymraeg – Dosbarthiadau yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.  

Ffrwd Saesneg – Dosbarthiadau yn derbyn eu haddysg yn bennaf trwy gyfrwng Saesneg a Chymraeg yn cael ei ddysgu fel ail iaith. Cymraeg yw’r prif gyfrwng addysgu yn y Dosbarthiadau Meithrin a Derbyn. O Flwyddyn 3 ymlaen, mae rhieni yn dewis naill ai addysg yn y Ffrwd Gymraeg neu’r Ffrwd Saesneg.

Ar gyfartaledd mae tua 20 – 30 o blant ymhob dosbarth. Yn arferol ni fydd mwy na dwy ystod blwyddyn mewn unrhyw ddosbarth.