ECO Sgolion

Dechreuodd Ysgol Griffith Jones ar ei rhaglen Eco lwyddiannus yn 2006 wrth intergreiddio ag annog y disgyblion i gymeryd rhan mewn materion amgylcheddol a dadtblygu cynaliadwy. Mae’n cynnig system hynod strwythurol ar gyfer rheolaeth amgylcheddol ysgolion.

Mae’r rhaglen yn adnodd dysgu ac mae’r meysydd pwnc yn cynnwys: 

  • Ysbwriel
  • Lleihau gwastraff
  • Cludiant
  • Byw’n Iach
  • Ynni
  • Dwr
  • Tir yr Ysgol
  • Dinasyddiaeth Fyd-Eang

Disgyblion sy’n cymeryd y prif rannau mewn gwneud penderfyniadau a chyfranogi er mwyn lleihau effaith amgylcheddol ein hysgol. Fel hyn, mae Eco-Sgolion yn ymestyn y tu hwnt i’r dosbarth ac yn datblygu agweddau o ddinasyddiaeth gyfrifol, gartref ac yn y gymuned.ehangach. 

Dyma grynodeb byr o lwyddiannau Eco yr ysgol: 

Y Tlws Efydd Sefydlu siop ffrwythau.
Gosod system ailgylchu mewn lle.
Darparu bocs adnoddau chwaraeon amser chwarae.  
Ymwybodol o arbed ynni.Marciau chwarae i’r iard yr ysgol a seddau allanol
Y Tlws Arian Gwella system ailgylchu – batteris, “fones 4School”,ailgylchu cardiau Nadolig, creu ein addurniadau Nadolig ein hunain. 
Cynllunio a derbyn grant wrth Loteri ‘r Treftadaeth i adeiladu Ystafell allanol.
Y Faner Werdd Gwella golwg mynedfa’r ysgol i’w gwneud yn fwy croesawgar a lliwgar..
Llunio gardd ysgol. 
Parhau ar ein cynllun Gwreiddiau ac Adennydd fel rhan o Ddinasyddiaeth Fyd-Eang. 
Y Ail Faner Wyrdd Monitro defnydd dŵr.
Defnyddio casglydd dŵr yng ngardd yr ysgol.Gwella tir yr ysgol drwy ddatblygu amserlen ar gyfer cyfleoedd plannu.
Ail gylchu llennu’r neuadd.
Gwneud defnydd ohonynt i greu nwyddau a werthwyd i’r gymuned er mwyn codi arian tuag at gywaith celf y Galeri Genedlaethol.
Gwobr Platinwm  Cynnal arolwg egni a chyflwyno camau i arbed ynni.
Sefydlu amserlen gompostio ar gyfer gwastraff bwyd yr ysgol.
Codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd ail gylchu gyda chefnogaeth y GRhA.

Adnewyddu’r Faner PlatinwmMae pwyllgor eco Ysgol Griffith Jones yn falch iawn i allu cyhoeddi bod yr ysgol eleni yn deilwng a llwyddiannus wrth gael y fraint o gadw ac adnewyddu’r faner platinwm.  Bu’r pwyllgor eco a’r ysgol gyfan yn cydweithio’n hynod o galed eleni eto er mwyn sicrhau ein bod yn medru parhau i gadw ein statws eco fel ysgol gyfan wrth i bob dosbarth gyfrannu tuag at cymaint â phosib o weithgareddau eco eleni eto, e.e. stondin gwerthu gwisg ysgol ail-law a siwmperi Nadolig ail law yn y ffair Nadolig, compostio cymaint o wastraff ffrwyth â phosib, codi ymwybyddiaeth materion eco ac ailgylchu, cynnal gwersi ‘awyr agored’ yn rheolaidd, ceisio denu bywyd gwyllt i dir yr ysgol yn ogystal â monitro a cheisio lleihau sbwriel nad yw’n bosib ei ailgylchu.  Hoffem ddiolch yn fawr i bawb yn yr ysgol am eu cydweithrediad.
Bu’r pwyllgor eco a rhai disgyblion ychwanegol yr ysgol yn barod iawn i fod ynghlwm â phrosiect cynulliad ‘Climate Challenge Cymru’ wrth i ni gymryd rhan mewn prosiect llywodraethol cyffrous trwy gyswllt Eluned Morgan (AC).  Bu hi’n ymweld gyda ni yn yr ysgol i osod her eco i’r disgyblion a fyddai’n cael effaith dda ar ein hamgylchedd.  Y prosiect a ddewisodd y disgyblion ar gyfer ein hysgol oedd ‘Surfers Against Sewage’.  Bwriad y prosiect oedd gweld a fyddem yn gallu lleihau y defnydd o foteli plastig ar gyfer darparu llaeth i blant ieuengaf yr ysgol.  Cafodd y plant fwynhad o ddod at ei gilydd i drafod a threfnu’r posibiliad a’r gobaith o leihau y defnydd o balstig o fewn yr ysgol ac rydym yn aros yn eiddgar i glywed canlyniad yr her.