Lleoliad

Lleolir San Cler yng ngorllewin Sir Gaerfyrddin ar y briffordd sy’n arwain o Gaerfyrddin i Sir Benfro. Saif y dref ar lannau tair afon, sef y Dewi, Cynin a’r Taf, y ddwy gyntaf yn llifo i’r Taf yn San Cler cyn iddi droelli i’w haber yn Nhalacharn. Tref fechan yw San Cler, wedi cynyddu yn y deugain mlynedd diwethaf gyda llawer o adeiladu preifat a chyngor. Bu’r diwydiant amaeth yn creu tipyn o waith i bobl San Cler gyda ffatri laeth a marchnad anifeiliaid lewyrchus, ond erbyn heddiw maent wedi cau a theithia nifer o drigolion San Cler i’w gwaith yng Nghaerfyrddin.

Mae hanes cyfoethog i San Cler ers i’r Normaniaid sefydlu eu castell mwnt a beili yma. Mae hanes diddorol ynglun a hen eglwys y Pererinion, eglwys y plwyf a’r priordy, a chafodd y dref cryn sylw yn ystod Terfysgoedd Rebeca pan ddinistriwyd y tollbyrth ar sawl achlysur. Yn ddiweddar codwyd Canolfan Hamdden lewyrchus, a gwelir nifer o welliannau i ymddangosiad y pentref, megis Pont y Pentref a’r Ganolfan Grefftau Arfaethedig.