Clybiau Gweithgareddau ar ol Ysgol
Clybiau Gweithgareddau
Cynhelir clybiau amrywiol ar ol ysgol trwy gydol tymor yr Hydref. Gofynnir i’r plant i gofrestru ar ddechrau’r tymor ac yna maent yn cael y cyfle i fynychu pob clwb yn ei dro, a chymryd rhan yn y gweithgareddau.
Nos Fawrth – i ddisgyblion blynyddoedd 3-6
Clwb Chwaraeon
Cynhelir y clwb yma yn y gampfa a chynigir ystod o weithgareddau a gemau. Caiff y disgyblion gyfle i ddatblygu sgiliau athletau a sgiliau gweithio fel tim. Cynigir gemau fel pel fas, tenis, pel droed, unihoc a pel-law.
Clwb Celf
Caiff y disgyblion gyfle i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau celf a chrefft. Llynedd bu’r plant yn creu delweddau ar gyfer harddu ac addurno waliau allanol yr ysgol.
Dawnsio Gwerin
Cyflwynir nifer o ddawnsiau traddodiadol i’r plant. Mae hwn yn glwb poblogaidd ac mae angen llawer o egni arnoch.
Clwb Cyfrifiaduron
Cynhelir hwn yn yr ystafell gyfrifiaduron ac mae cyfle i’r disgyblion ddatblygu eu sgiliau T.G.
Clwb Frangeg
Bonjour. Cyfle i ddysgu iaith arall, sef Frangeg yn y clwb cyffrous yma.
Clwb Coginio
Yn y clwb yma mae’r plant yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau coginio.
Clwb Gwyddoniaeth
Mae’r disgyblion yn mwynhau cydweithio yn y gweithgareddau gwyddonol amrywiol a gynnigir. Mae cyfle i weithio o fewn a thu allan i’r dosbarth yn archwilio a darganfod wrth wirio eu rhagfynegion.
Clwb Brecwast
Mae’r Clwb Brecwast yn cwrdd yn foreol yn neuadd yr ysgol. Mae’r drysau’n agor am 8:05y.b. ac mae’r plant yn aros yn y clwb nes bod yr ysgol yn agor yn swyddogol am 8.40y.b. Rhaid i’r plant gyrraedd cyn 8.30y.b. er mwyn cael bwyd.
Nid oes tal am fynychu’r clwb sy’n cael ei redeg gan Staff y gegin a’i noddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Clwb yr Enfys
Cynhelir ‘Clwb yr Enfys’ bob prynhawn ar ddiwedd y diwrnod ysgol. Mae’r clwb yn derbyn unrhyw blentyn o’r dosbarth Meithrin i fyny, ac yn agor am 3yp. Mae’r clwb yn aros ar agor tan 5:55yp. Rhoddir ‘snac’ i bob plentyn ac mae cyfle iddynt gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau. Os yw’r tywydd yn sych mae cyfle i fwynhau gweithgareddau yn yr awyr agored, ac os yw’r tywydd yn wlyb mae ystod o adnoddau gan y clwb i ddiddori’r plant.Y gost am bob sesiwn yw £10.00
Mae angen cofrestru’ch plentyn cyn y bydd yn medru mynychu’r clwb hwyl,a hefyd gwneud yn siwr bod lle yn y clwb ar y diwrnod i chi am iddo/iddi fynychu’r clwb.
Os ydych am fwcio sesiwn yn y clwb ffoniwch
Mrs Amanda Jones: 07931055047
Ebost – clwbyrenfys@yahoo.com
Campau’r Ddraig
PELRHWYD
Mae clwb pelrhwyd Campau’r Ddraig yn cyfarfod yn ystod Tymor yr Hydref. Mae croeso i fechgyn a merched fynychu’r sesiynau hyfforddi yma sydd o dan ofal rhai o staff yr ysgol ac yn cael eu cefnogi gan rieni, myfyrwyr a disgyblion Ysgolion Uwchradd cyfagos. Mae pwyslais yr hyfforddi ar ddatblygu sgiliau mewn awyrgylch hwylus.
Criced
Mae Clwb Criced Campau’r Ddraig yn cyfarfod yn ystod tymor yr Haf a hynny ar gae’r ysgol. Mae’r plant yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau criced drwy chwarae amrywiaeth o gemau sy’n cynnwys taflu, dal a batio.
Athletau
Mae disgyblion Ysgol Griffith Jones yn cymryd rhan yn ‘Decathlon Byr’ Campau’r Ddraig yn flynyddol. Mae’n cynnwys campau rhedeg, neidio a thaflu. Mae pob disgybl yn cael cyfle i wella’u technegau yn y sesiynau hyfforddi sydd o dan oruchwyliaeth aelodau o staff yr ysgol ac hyfforddwyr Campau’r Ddraig.