Beth yw’r GRAFf?
Grŵp o bobl sy’n cynnwys rhieni, athrawon a ffrindiau’r ysgol sy’n cyd-weithio i drefnu gweithgareddau cymdeithasol ac i godi arian.
Beth yw nod y GRAFf?
- Codi arian i brynu adnoddau a fydd o fudd i’r plant sydd y tu hwnt i gyllid yr ysgol.
- I drefnu gweithgareddau cymdeithasol i’r plant, rhieni a ffrindiau er mwyn hyrwyddo cysylltiadau â’r gymuned.
Pwy all fod yn aelodau o’r GRAFf?
Mae unrhyw un sydd â phlant yn yr ysgol neu sy’n gweithio yn yr ysgol yn aelod.
Sut allwn ddarganfod mwy?
Bob blwyddyn ym mis Medi mae yna gyfarfod blynyddol cyffredinol sy’n agored i’r staff a’r rhieni i gyd. Mae hwn yn gyfle da i gyfarfod â phobl am y tro cyntaf ac i glywed am waith a chynlluniau’r gymdeithas. Dewch i’r cyfarfod i glywed mwy. Bydd croeso cynnes i newydd ddyfodiaid.
Cynllunio a Threfnu
Mewn awyrgylch anffurfiol, bydd y gymdeithas a’r aelodau yn trafod gweithgareddau a syniadau newydd. Yn y cyfarfodydd yma fe ystyrir syniadau ar gyfer codi arian. Dyma’ch cyfle chi i rannu eich syniadau.
Byddwch yn rhan o’r GRAFf
Gall bod yn rhan o’r GRAFf ddod â mwynhad i chi a bydd yn hyrwyddo perthynas eich teulu â’r ysgol. Bydd Mamau, Tadau, Staff a Ffrindiau’n cyfuno gan gyfrannu at awyrgylch gyfeillgar yr ysgol. Caiff bawb groeso cynnes ar unrhyw adeg, ac nid yw byth yn rhy hwyr i ymuno. Rydym bob amser yn chwilio am aelodau newydd a syniadau ffres, am gymorth i redeg stondinau mewn ffair am hanner awr – neu am unrhyw fath o gyfraniad. Caiff pob cymorth ei werthfawrogi.
Sut i gysylltu â’r GRAFf?
Y ffordd hawsaf i gysylltu yw gadael neges yn y Swyddfa a bydd aelod o bwyllgor y GRAFf yn cysylltu nôl.
Codi Hwyl Wrth Godi Arian
Dros y blynyddoedd mae haelioni pawb sy’n rhan o gymuned Ysgol Griffith Jones wedi galluogi’r GRAFf i gyfrannu miloedd o bunnoedd tuag at wahanol brosiectau. Mae pobl wedi dangos creadigrwydd wrth drefnu gweithgareddau newydd ochr yn ochr â’r hen syniadau dibynadwy. Mae awyrgylch gyfeillgar yn ein cyfarfodydd ac mae croeso i bawb i ddod i dystio i’n gwaith.
Gweithgareddau Cymdeithasol, Hwyliog
Nid codi arian yw’r unig nod. Mae cael cyfle i gymdeithasu’r un mor bwysig ac mae’r gweithgareddau yn gyfle i blant a rhieni i greu ffrindiau newydd yn Ysgol Griffith Jones.
Mae gan y GRAFf hanes llwyddiannus dros ben o godi arian.
Mae’r llwyddiant hwn wedi ei wreiddio mewn naws o gyd-weithio fel tîm wrth godi arian ac wrth gymdeithasu. Gallwch chithau hefyd fod yn rhan o’r tîm yma.
Gweithgareddau’r presennol a’r gorffennol
Bingo Ben
Ffair Nadolig
Noson Gwis
Rasys Ceffylau
Cerdded, Seiclo, Darllen Noddedig
Sioe Ffasiynau
Disgos
Ras Hwyaid
Ffair Haf
Dawns Sant Ffolant
Criced
Noson Lawen
Ffair Greiriau
Adnoddau a brynwyd gan y GRAFf
Piano
Cluniaduron
Llyfrau Darllen
Troli Cluniaduron
Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol
Llenni i’r Neuadd
Sgrin ac Uwchdaflunydd
Allweddell
Dillad Chwaraeon
Ffrâm Ddringo i’r Iard
Teganau a Gemau i’r Iard
System Sain
Llwybr Antur a Wal Ddringo
Gwisgoedd Dawnsio Gwerin
Ein Targed Nesaf
Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol i’r Feithrinfa – £3,000
Adnoddau Mathemateg – £2,000
Arian a godwyd gan y GRAFf – Money raised by PTFA
2011-12 | £3,349.32 |
2012-13 | £3,599.50 |
2013-14 | £4,208.65 |
2014-15 | £4,479.89 |
2015-16 | £4,124.35 |