Mae ein cwricwlwm wedi’i gyd-greu drwy ymgysylltu â’r holl randdeiliaid a bydd yn bodloni’r gofynion canlynol:
Ein gweledigaeth:
Yn Ysgol Griffith Jones, mae pob dysgwr yn cael mynediad i gwricwlwm sydd yn adlewyrchu Cymru, ei threftadaeth ddiwylliannol a’i hamrywiaeth, ei hieithoedd a’i gwerthoedd, ei hanes a’i thraddodiadau.
- Gwreiddiwn ein cynllunio o fewn ein cynefin gan osod seiliau ar gyfer dinasyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol.
- Annogwn ein disgyblion i werthfawrogi’r cyfraniad y gallan nhw ei wneud yn eu cymuned ac i ddatblygu ac archwilio eu hymatebion i faterion lleol, cenedlaethol a byd-eang.
- Mae’r pedwar diben wrth wraidd ein cynllunio ac wrth eu gwireddu, rydym yn gosod disgwyliadau uchel i bawb, yn hyrwyddo iechyd a lles personol ac yn annog dysgwyr i chwarae eu rhan fel dinasyddion gwybodus a chyfrifol.
- Rhown gyfleoedd i ddisgyblion i ddatblygu eu sgiliau o fewn pob Maes Dysgu gan ddatblygu fel dysgwyr annibynnol, creadigol a mentrus sy’n medru cymhwyso’u dysgu i sefyllfaoedd newydd.
- Rydym yn meithrin sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymwysedd digidol disgyblion gan alluogi dysgwyr i addasu a ffynnu yn y byd sydd ohoni. Gwrandewn ar lais ein dysgwyr gan ymateb i’w anghenion, eu profiadau a’u mewnbwn.
- Mae ein holl rhanddeiliaid yn rhannu’r nod o gefnogi ein dysgwyr ar hyd y continwwm dysgu gan sicrhau datblygiad eu gwybodaeth a’u sgiliau, tra’n ffynnu fel unigolion hapus ac hyderus.
Ein gwerthoedd
- Parch ac Ymddiriedaeth
- Cymuned a Chynefin
- Lles a Gofal
- Hapusrwydd a Mwynhad
- Gwydnwch a Hyder
- Cymru a Chymreictod
- Mentro ac Arloesi
- Cefnogaeth a Chydweithio
Ein cwricwlwm cynhwysol
Bydd ein cwricwlwm yn codi dyheadau pob dysgwr. Fel ysgol rydym wedi ystyried sut y bydd pob dysgwr yn cael ei gefnogi i wireddu’r pedwar diben ac i symud ymlaen. Rydym wedi ystyried ein darpariaeth ADY a sut y byddwn yn bodloni anghenion gwahanol grwpiau o ddysgwyr.
Y pedwar diben
Y pedwar diben yw’r man cychwyn a’r dyhead ar gyfer ein cynllun cwricwlwm ysgol. Nod ein hysgol yw cefnogi ein dysgwyr i ddod :
- yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
- yn gyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a’r byd
- unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig
Bydd ein cwricwlwm yn darparu cyfleoedd a phrofiadau i ddatblygu’r cysyniadau, gwybodaeth a sgiliau allweddol fel y’u disgrifir yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ac yn unol â’r Cod Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig.
Meysydd Dysgu a Phrofiad
Bydd ein cwricwlwm yn darparu profiadau dysgu drwy’r 6 Maes Dysgu a Phrofiad o:
- Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Celfyddydau Mynegiannol
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Dyniaethau
- Mathemateg a Rhifedd
- Iechyd a Lles
Dysgu, Dilyniant ac Asesu
Bydd ein cwricwlwm yn cefnogi dysgu trwy ddylunio cyfleoedd dysgu sy’n tynnu ar yr egwyddorion addysgegol.
Mae ein cwricwlwm, a ategir gan addysgu a dysgu effeithiol, yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd ystyrlon. Dros amser bydd ein dysgwyr yn datblygu a gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth. Mae ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddeall beth mae’n ei olygu i wneud cynnydd mewn Maes neu ddisgyblaeth benodol a sut y dylai dysgwyr ddyfnhau ac ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, eu sgiliau a’u galluoedd, a’u priodoleddau a’u tueddiadau, ac mae’n cael ei lywio gan y Cod Cynnydd. Mae hyn yn ei dro yn cefnogi ein hymagwedd at asesu, a’i ddiben yw llywio cynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Bydd asesu yn cael ei wreiddio fel rhan gynhenid o ddysgu ac addysgu. Bydd pob dysgwr yn cael ei asesu ar fynediad i’r ysgol.
Iaith
Mae’r Cyfnod Sylfaen yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg ac yn defnyddio’r Gymraeg i gyflwyno’r cwricwlwm. Cyflwynir gwersi Saesneg ym Mlwyddyn 3.
Sgiliau trawsgwricwlaidd
Bydd ein cwricwlwm yn datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Bydd ein cwricwlwm yn galluogi dysgwyr i ddatblygu cymhwysedd a gallu yn y sgiliau hyn a’u hymestyn a’u cymhwyso ar draws pob Maes. Bydd dysgwyr yn cael cyfleoedd ar draws y cwricwlwm i:
- datblygu sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu
- gallu defnyddio rhifau a datrys problemau mewn sefyllfaoedd go iawn
- bod yn ddefnyddwyr hyderus o ystod o dechnolegau i’w helpu i weithredu a chyfathrebu’n effeithiol a gwneud synnwyr o’r byd
CCUHP – Hawliau Plant
Bydd ein hysgol yn hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Ran 1 o CCUHP, ac o CCUHP, ymhlith y rhai sy’n darparu addysgu a dysgu.
CWRE : profiadau sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd a gwaith
Bydd ein cwricwlwm yn ymgorffori gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith ar gyfer ein holl ddysgwyr.
Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ACRh
Mae ein cwricwlwm ysgol yn cofleidio’r arweiniad yn y Cod ACRh. Bydd gan ein darpariaeth Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb rôl gadarnhaol a grymusol yn addysg ein dysgwyr a bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth eu cefnogi i wireddu’r pedwar diben fel rhan o ymagwedd ysgol gyfan. Sylfaen ACRh yw helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal ystod o berthnasoedd, i gyd yn seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a pharch. Mae’r perthnasoedd hyn yn hanfodol i ddatblygiad lles emosiynol, gwydnwch ac empathi.
CGM : Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
Mae crefydd, gwerthoedd a moeseg (CGM) yn ofyniad statudol o’r Cwricwlwm i Gymru ac mae’n orfodol i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed.
Nid oes hawl gan riant i wneud cais i dynnu plentyn o wersi CGM yn y Cwricwlwm i Gymru
Gan fod CGM yn bwnc a bennir yn lleol, mae’r maes llafur cytûn yn nodi’r hyn y dylid ei addysgu mewn CGM o fewn yr awdurdod lleol a bydd ein cwricwlwm yn adlewyrchu’r canllawiau hyn.
Adolygu a mireinio
Bydd ein cwricwlwm ysgol yn cael ei adolygu’n barhaus er mwyn ymateb i allbynnau ymholi proffesiynol, anghenion cyfnewidiol dysgwyr a chyd-destunau ac anghenion cymdeithasol. Bydd yr adolygiadau’n ystyried barn rhanddeiliaid ac yn cael eu cymeradwyo gan y Corff Llywodraethol. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’n cwricwlwm ac yn adolygu’r crynodeb os gwneir newidiadau i’r cwricwlwm yn ystod y broses adolygu.
——————————————————————————————————————————————————————————————————————————
DATBLYGU MEDDWL AC ASESU AR GYFER DYSGU
Yn 2009 gwahoddwyd Ysgol Griffith Jones gan APADGOS i gymeryd rhan yn yr rhaglen Gymreig. Cadarnhaodd hyn yr ysgol i fod yn “Ysgol Meddwl” gan ei bod eisioes wedi derbyn hyfforddiant mewn rhaglenni “Dewch i Feddwl” a “Came”.
Dechreuodd APADGOS (Yr Adran Plant,Addysg,Dysgu Gydol Oes a Sgiliau) y rhaglen Datblygu Meddwl ac Asesu ar Gyfer Dysgu yn 2005.Ffocysodd y rhaglen ar ddatblygu, gweithredu a lledaenu arfer dda, yn y dysgu o ddatblygu meddwl ac asesu ar gyfer strategaethau dysgu.
Prif nod y rhaglen yw i:
- gwella perfformiad
- bod y dysgwr yn cymryd mwy o ran yn eu dysgu
- newid arfer y dosbarth felly yn gwella’r addysgu
- cynyddu’r nifer o wersi creadigol.
Gelir ystyried y broses gyfan o ddatblygu meddwl yn broses gylchol fel bod yr hyn a ddysgwyd o fyfyrio yn gallu bwydo’n ol i’r dasg nesaf.
Datblygu meddwl – cylchol y dysgwr.
Dylid nodi bod “meddwl am feddwl”( metawybyddiaet) wrth wraidd pob math o ddysgu; mae’n rhaid i ddysgwyr ddadbacio ei meddwl er mwyn gwerthfawrogi’r strategaethau y maent wedi’u defnyddio i ddysgu,cymathu’r dysgu sydd wedi digwydd a chysylltu’r dysgu a chyd-destun newydd. Hwn yw’r cynhwysyn hanfodol sy’n gwneud y dull dysgu yn un cylchol.
Yn Ysgol Griffith Jones, er mwyn gweithredu’r egwyddorion meddwl yn rhesymol, defnyddiwn ystod o strategaethau meddwl ag offer meddwl. Esiampl o’r offer cyson yw:
- 2 Seren a Dymuniad
- Y Goeden Gwestiynau
- Y Gadair Goch
- Byrddau Gwyn
Fel rhan o’r strategaethau byddwn yn – cynyddu amser i feddwl a dim dwylo i fyny,
Esiampl o’r offer a ddefnyddiwyd yw map cysyniad, llinellau ffawd, siart KWL, graffiau byw a rhestru diemwnt.
Gall ddatblygu asesu ar gyfer dysgu ei osod mewn tri maes sef:- cwestiynu, darparu adborth i ddysgwyr ag asesiad cyfoedion a hunanasesiad. Eto defnyddiwyd ystod o offer ar gyfer asesu.
Mae manteision y rhaglen yn amlwg wrth i’r disgyblion gymryd fwy o ran yn eu haddysg, hybu eu dysgu a meddwl i fod yn fwy gweithredol a llunio cyfleon iddynt fyfyrio, felly yn eu creu yn ddysgwyr annibynnol. Mae dysgwyr Ysgol Griffith Jones yn fwy pendant wrth gynnig barn, gwell cyfathrebwyr ac yn unigolion hunan hyderus.