Cyngor Ysgol

Mae Cyngor Ysgol Griffith Jones yn grwp o tua 20 o blant wedi’u hethol gan eu cyd-ddisgyblion i gynrychioli eu barn trwy bleidlais ddirgel a chodi materion gydag uwch-reolwyr a llywodraethwyr yr ysgol. Gall cyngor yr ysgol hefyd fwrw ymlaen a phrosiectau ar ran y plant, a chyfrannu at gynllunio agweddau arbennig i’w cynnwys yng Nghynllun Datblygu Ysgol.

Etholodd pob dosbarth C.A.2 gynrychiolydd i fod ar Y Cyngor Ysgol.

Dyma patrwm y cyngor:
Cadeirydd,
Is-gadeirydd,
Ysgrifennydd,
Trysorydd,
Cynrychiolwyr dosbarth.  

Mae’r plant yn cynnal cyfarfodydd i drafod digwyddiadau ac i glywed am ddatblygiadau sy’n effeithio ar yr ysgol a’r disgyblion. Mae ganddynt rol bwysig i’w chwarae gan eu bod yn gorfod adrodd yn ol i’w dosbarthiadau ar ol y cyfarfodydd a chodi unrhyw fater o bwys yn y cyfarfod nesaf. Hefyd eu cyfrifoldeb nhw yw i ymweld a CA 1 i egluro am unrhyw ddatblygiad a gwrando ar eu barn.

Y mae plant a phobl ifanc sydd yn cymeryd rhan mewn gwneud penderfyniadau yn teimlo ei fod yn beth da i’w wneud oherwydd eu bod nhw: 

  • yn teimlo bod pobl yn gwrando arnyn nhw;
  • yn gwybod bod eu barn yn cyfrif;
  • yn ennill sgiliau pwysig fel gwrando ar eraill, lleisio barn yn effeithiol a gweithio mewn tim;
  • yn dod ymlaen yn well gydag oedolion;
  • yn gweld canlyniadau.
  • ………..ac oherwydd ei bod yn hwyl!

Y mae cyfranogiad disgydlion yn ymwneud a’r holl ffyrdd sydd gennych i fynegi eich barn a chymeryd rhan mewn gwneud penderfyniadau yn yr ysgol. 

Dyma rai o ddigwyddiadau buodd y Cyngor Ysgol yn gyfrifol am yn Ysgol Griffith Jones dros y blynyddoedd diwethaf.

  • sefydlu Ysgol Iach e.e. rhedeg siop ffrwythau, gwella adnoddau tu allan.
  • Gwella golwg yr ysgol e.e. holiadur gan y plant ar ddiogelwch a golwg a ddatblygodd i fewn i waith Celf ar y walaiu tu allan; cywirio tyllau ar yr iard, plannu blodau a chadw llygad ar gyflwr yr adeiladau os bydd rhywbeth wedi ei dorri ( enwdig pe bae rhywbeth yn eu gofidio o ran y toiledau).
  • Gwaith elusennol, lleol a cenedlaethol e.e yn gyfrifol am brosiect ailgylchu “Bags2School”,ailgylchu cardiau Nadolig.
  • Cefnogi pob ymdrech gwaith Eco.
  • Cynrychioli yr ysgol a chroesawi ar achlysuron arbennig e.e derbyn ein Baner Werdd Eco, bod yn rhan yn fforwm Cyngor Ysgol yn ysgol Gyfun Bro Myrddin yn flynyddol.

Rydym yn sylweddoli yn Ysgol Griffith Jones bod ein Cyngor Ysgol yn ddolen holl bwysig rhwng y plant a’r staff, sy’n medru tynnu sylw a chodi materion efallau na fyddai wedi dod i’r golwg. Felly, yn creu llais cryf a phendant ac effeithiol at wella ethos, amcanion,safonau a disgwyliadau’r ysgol.