Dechreuodd Ysgol Griffith Jones ar ei rhaglen Eco lwyddiannus yn 2006 wrth intergreiddio ag annog y disgyblion i gymeryd rhan mewn materion amgylcheddol a dadtblygu cynaliadwy. Mae’n cynnig system hynod strwythurol ar gyfer rheolaeth amgylcheddol ysgolion.
Mae’r rhaglen yn adnodd dysgu ac mae’r meysydd pwnc yn cynnwys:
- Ysbwriel
- Lleihau gwastraff
- Cludiant
- Byw’n Iach
- Ynni
- Dwr
- Tir yr Ysgol
- Dinasyddiaeth Fyd-Eang
Disgyblion sy’n cymeryd y prif rannau mewn gwneud penderfyniadau a chyfranogi er mwyn lleihau effaith amgylcheddol ein hysgol. Fel hyn, mae Eco-Sgolion yn ymestyn y tu hwnt i’r dosbarth ac yn datblygu agweddau o ddinasyddiaeth gyfrifol, gartref ac yn y gymuned.ehangach.
Dyma grynodeb byr o lwyddiannau Eco yr ysgol:
Y Tlws Efydd | Sefydlu siop ffrwythau. Gosod system ailgylchu mewn lle. Darparu bocs adnoddau chwaraeon amser chwarae. Ymwybodol o arbed ynni.Marciau chwarae i’r iard yr ysgol a seddau allanol |
Y Tlws Arian | Gwella system ailgylchu – batteris, “fones 4School”,ailgylchu cardiau Nadolig, creu ein addurniadau Nadolig ein hunain. Cynllunio a derbyn grant wrth Loteri ‘r Treftadaeth i adeiladu Ystafell allanol. |
Y Faner Werdd | Gwella golwg mynedfa’r ysgol i’w gwneud yn fwy croesawgar a lliwgar.. Llunio gardd ysgol. Parhau ar ein cynllun Gwreiddiau ac Adennydd fel rhan o Ddinasyddiaeth Fyd-Eang. |
Y Ail Faner Wyrdd | Monitro defnydd dŵr. Defnyddio casglydd dŵr yng ngardd yr ysgol.Gwella tir yr ysgol drwy ddatblygu amserlen ar gyfer cyfleoedd plannu. Ail gylchu llennu’r neuadd. Gwneud defnydd ohonynt i greu nwyddau a werthwyd i’r gymuned er mwyn codi arian tuag at gywaith celf y Galeri Genedlaethol. |
Gwobr Platinwm | Cynnal arolwg egni a chyflwyno camau i arbed ynni. Sefydlu amserlen gompostio ar gyfer gwastraff bwyd yr ysgol. Codi ymwybyddiaeth o gyfleoedd ail gylchu gyda chefnogaeth y GRhA. |
Adnewyddu’r Faner Platinwm | Mae pwyllgor eco Ysgol Griffith Jones yn falch iawn i allu cyhoeddi bod yr ysgol eleni yn deilwng a llwyddiannus wrth gael y fraint o gadw ac adnewyddu’r faner platinwm. Bu’r pwyllgor eco a’r ysgol gyfan yn cydweithio’n hynod o galed eleni eto er mwyn sicrhau ein bod yn medru parhau i gadw ein statws eco fel ysgol gyfan wrth i bob dosbarth gyfrannu tuag at cymaint â phosib o weithgareddau eco eleni eto, e.e. stondin gwerthu gwisg ysgol ail-law a siwmperi Nadolig ail law yn y ffair Nadolig, compostio cymaint o wastraff ffrwyth â phosib, codi ymwybyddiaeth materion eco ac ailgylchu, cynnal gwersi ‘awyr agored’ yn rheolaidd, ceisio denu bywyd gwyllt i dir yr ysgol yn ogystal â monitro a cheisio lleihau sbwriel nad yw’n bosib ei ailgylchu. Hoffem ddiolch yn fawr i bawb yn yr ysgol am eu cydweithrediad. Bu’r pwyllgor eco a rhai disgyblion ychwanegol yr ysgol yn barod iawn i fod ynghlwm â phrosiect cynulliad ‘Climate Challenge Cymru’ wrth i ni gymryd rhan mewn prosiect llywodraethol cyffrous trwy gyswllt Eluned Morgan (AC). Bu hi’n ymweld gyda ni yn yr ysgol i osod her eco i’r disgyblion a fyddai’n cael effaith dda ar ein hamgylchedd. Y prosiect a ddewisodd y disgyblion ar gyfer ein hysgol oedd ‘Surfers Against Sewage’. Bwriad y prosiect oedd gweld a fyddem yn gallu lleihau y defnydd o foteli plastig ar gyfer darparu llaeth i blant ieuengaf yr ysgol. Cafodd y plant fwynhad o ddod at ei gilydd i drafod a threfnu’r posibiliad a’r gobaith o leihau y defnydd o balstig o fewn yr ysgol ac rydym yn aros yn eiddgar i glywed canlyniad yr her. |