Mae’r ardal Iechyd a Lles yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol er mwyn eich helpu i ddeall a gwerthfawrogi bod iechyd a lles yn bwysig. Nid yn unig ydyw’n eich galluogi i ddysgu’n llwyddiannus ond mae hefyd yn helpu i fod yn unigolion annibynnol, hapus ac iach. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am nifer o asiantaethau allanol sy’n gallu ein helpu.
Os oes rhywbeth yn eich poeni neu oes gennych unrhyw gwestiynau, yna mae’n bwysig i chi siarad ag oedolyn y gallwch ymddiried ynddynt. Gallwch siarad gyda rhiant/gofalwr, athro/athrawes neu unrhyw aelod o staff yr ysgol. Rydym yma i’ch helpu a’ch cefnogi.








