Masnach Deg yn Ysgol Griffith Jones
Mae traean o boblogaeth y byd yn byw ar lai na doler y dydd ac mae’r system masnachu ar hyn o bryd yn methu nhw. Gall Masnach Deg helpu i newid hyn. Drwy gefnogi Masnach Deg rydych yn galluogi miliynau o gynhyrchwyr ledled y byd i gymryd rheolaeth dros eu dyfodol ac i ddatblygu eu cymunedau.
Mae’r marc MASNACH DEG yn sicrhau:
- Isafswm sydd wedi ei gytuno a’r cynhyrchwyr, sydd yn mynd i gyflenwi cost y cynhyrchu
- Premiwm ychwanegol bydd yn gallu cael ei fuddsoddi yn gynlluniau sy’n gwella datblygiadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
- Bod cydweithfa yn cael ei greu ac i ferched cael y cyfle i fynegi eu barn
- Amodau gwaith diogel a theg.
- Dulliau cynhyrchu sydd yn gyfrifol o safbwynt yr amgylchedd a chynaladwyedd.
Ysgol Fasnach Deg
Mae Gwobr Ysgolion Masnach Deg yn ymwneud â dysgu , hwyl a gweithredu. Mae’n cynnwys holl gymuned yr ysgol ac yn rhoi pobl ifanc wrth wraidd y gweithgareddau.
Mae gan y cynllun tair gwobr
- Ymwybyddiaeth Teg – Cofrestrwch, cwblhewch archwiliad y dysgwr a’r athrawon a’r Sialens Dysgu ac yna bydd eich ysgol yn barod i dderbyn ei Gwobr Ymwybyddiaeth Deg.
- Gweithredu’n Deg – Gyda chymorth eich Grŵp Llywio Masnach Deg, cwblhewch dwy sialens ychwanegol ac yna mi fydd eich ysgol yn gweithio tuag at y Wobr ‘Gweithgar Deg’.
- Cyflawni’n Deg – Cwblhewch dair sialens arall, a mabwysiadwch bolisi Masnach Deg ynghyd a gweithgareddau dysgu pellach ac yna mi fydd eich ysgol yn paratoi ar gyfer ei cham terfynol- asesiad ar gyfer y Wobr Cyflawnydd Deg. Mae’r Wobr yma yn gyfwerth â’r Wobr Ysgolion Masnach Deg bresennol.
Ar y pwynt hwn felly, rydym yn hyderus bod yr ysgol wedi ymgorffori Masnach Deg yn ei bywyd bob dydd.
Gweithgareddau Masnach Deg
‘Y newid mawr’
Adeg amser chwarae ag amser cinio, mae staff yr ysgol wedi bod yn blasu te a choffi Masnach Deg yn yr ystafell athrawon. Mae sudd oren Masnach Deg hefyd yn rhan o fwydlen cegin yr ysgol i’r plant yn wythnosol.
Gwasanaeth Masnach Deg
Yn ystod pythefnos masnach deg, cyflwynodd dosbarth Mrs Taylor gwasanaeth arbennig yn esbonio pwysigrwydd cefnogi Masnach deg.
Clwb coginio Masnach Deg
Yn ystod tymor yr Hydref, cynhaliwyd clwb coginio Masnach Deg. Cafodd y plant cyfle i goginio dau rysáit Masnach Deg – Fflapjacs banana a cwcis siocled! Am brofiad blasus a llawer o hwyl!
Gweithdy Masnach Deg
Cafodd rhai o blant a staff yr ysgol y cyfle ffodus i fynychu gweithdy Masnach Deg yn Ysgol Dyffryn Taf. Cyfarfuom ffermwr coffi o Uganda, dysgu am ‘ffermio coco yn Ghana’, roi cynnig ar argraffu Affricanaidd a drymio a chwblhau her ‘gardd ddŵr’ fu’n arnofio.
Pythefnos Masnach Deg
I ddathlu Pythefnos Masnach Deg, trefnwyd ‘Brecwast Masnach Deg’ i’r ysgol gyfan – bron 300 o blant! Roedd pob eitem o fwyd a diod yn ystod y brecwast yn nwyddau Masnach Deg – bu hyn yn cynnwys salad ffrwythau, sudd oren/ afal a mêl i fynd gyda’r bara lleol y bu dosbarth Miss Evans wedi eu casglu’r diwrnod cynt o ‘County Stores’ yn y pentref.
Ar ddechrau’r ‘brecwast mawr’ gwyliodd y disgyblion iau fideo am Pablo y “super banana” ar y sgrin fawr yn y neuadd, a’r plant hŷn fideo ‘Fy antur Masnach Deg’.
Buom yn gwerthu tocynnau raffl ar gyfer hamper yn llawn o bethau Masnach Deg. Codwyd yn agos i £100 a gafodd ei ddanfon at y Sefydliad Masnach Deg.
Gwersi Masnach Deg
Mae dysgu drwy Fasnach Deg yn ein hagor i fyd diddorol, gan ddatgelu sut y rydym i gyd yn cysylltu i’n gilydd. Yn Ysgol Griffith Jones, mae’r dysgu yma yn dechrau o oed ifanc yn y meithrin/derbyn lle bu’r plant yn cael eu cyflwyno i’r logo enwog a chael y cyfle i greu gludluniau a chrefftau o’r fath, yr holl ffordd at flwyddyn 6 – erbyn hyn mae’r plant wedi dysgu yn union beth yw ystyr Masnach Deg yn ogystal â sut y gallwn helpu cynhyrchwyr bwyd ar draws y byd. Mae dysgu am Fasnach Deg wedi datblygu sgiliau mewn nifer o wahanol feysydd ar draws y cwricwlwm gan gynnwys sgiliau daearyddol, moesau a moeseg, iaith, technoleg, personol a chymdeithasol, i enwi ond ychydig.
Masnach Deg 2016 / 2017 – Wedi derbyn y Faner Masnach Deg
Mr Gareth Morgans yn cyflwyno’r Faner