

Mae gwefan Meddwl yn lle i gael cefnogaeth, gwybodaeth a phrofiadau iechyd meddwl – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Meic yw’r gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc Cymru rhwng 0 a 25 oed. Gellir cysylltu â gwasanaeth dwyieithog Meic, yn gyfrinachol ac am ddim, ar y ffôn (08088023456), neges testun (84001) neu sgwrs ar-lein ar ein gwefan. Rydym yn agored rhwng 8yb a hanner nos bob dydd o’r flwyddyn.

Mae gwasanaeth ‘111 pwyso 2’ y GIG ar gyfer iechyd meddwl ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos i bob oedran. Gall pobl ddefnyddio’r rhif hwn os oes ganddynt bryder iechyd meddwl brys eu hunain neu bryder am rywun maen nhw’n ei adnabod.
Trwy roi mynediad at weithiwr iechyd meddwl proffesiynol, heb fod angen atgyfeiriad gan feddyg teulu, mae’n gallu helpu i gefnogi pobl i reoli argyfwng iechyd meddwl. Mewn llawer o achosion, gall fod yn ddewis gwahanol yn lle mynd i adran frys neu ffonio’r heddlu.
Mae modd cael gafael ar y gwasanaeth drwy ffonio GIG 111 a dewis rhif 2. Bydd galwyr yn cael eu trosglwyddo i aelod penodedig o dîm iechyd meddwl yn ardal eu bwrdd iechyd lleol.
Cliciwch yma i ddarllen mwy.
