
Mae mynd i’r afael â thlodi mislif yn parhau’n flaenoriaeth i’r llywodraeth. Cymru sy’n Falch o’r Mislif yw cynllun y llywodraeth i ddod â thlodi mislif i ben a sicrhau urddas mislif yng Nghymru. Nod y cynllun hyn yw gwneud Cymru yn genedl wirioneddol falch o’r mislif ac yn un sy’n sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael ar y nwyddau sydd eu hangen arnynt heb embaras na chywilydd.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, drwy Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thlodi mislif ac yn falch fel awdurdod lleol i fod yn darparu’r rhai mewn angen â chynnyrch misglwyf am ddim. Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.