Cliciwch ar y lluniau uchod i wylio’r clip fideo
Dwy Iaith, dwywaith y dewis!
Ein nod fel sir yw ysbrydoli ein plant a’n pobl ifanc i ddefnyddio’u Cymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau.
Erbyn 2050, mae Senedd Cymru wedi gosod targed i godi nifer o siaradwyr Cymraeg ein gwlad i 1 miliwn. Fel rhan o’r cynllun yma mae Ysgolion Cymru wedi ymrwymo i gynllun y ‘Siarter Iaith’. Nod y cynllun yw i annog y defnydd cymdeithasol a’r mwynhad o’r Gymraeg mewn ysgolion ar draws Cymru. Fel rhan o’r cynllun mae gan bob ysgol eu targedau unigol ac mae pawb sy’n rhan o gymuned yr ysgol yn gweithio gyda’i gilydd i hybu’r taregdau yma.
Ein nod ni fel Llysgenhadon Iaith yw i hybu’r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd a gwaith Ysgol Griffith Jones. Mae’r iaith Gymraeg yn eiddo i ni gyd.
Amcanion
- Sicrhau fod holl rhanddeiliad yr ysgol yn ymwybodol o’n gweledigaeth ‘Mae’r iaith Gymraeg yn eiddo i ni gyd.’
- Codi proffil y defnydd o’r Gymraeg o gwmpas yr ysgol.
- Mae’r Cyngor Ysgol wrth hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.
- Mae gennym gynllun datblygu clir ar gyfer hyrwyddo’r siarter.
- Rydym yn defnyddio’r gwaelodlin fel man cychwyn i asesu effaith
Sut?
Rydym yn:-
- Dathlu ac annog.
- Mae’r Cyngor Ysgol yn chwarae rhan allweddol wrth hybu’r iaith o gwmpas yr ysgol.
- Defnyddio’r cymeriad ‘Celt’ ym mhob dosbarth.
- Hyrwyddo gweithgareddau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth e.e. Eisteddfod.
- Ymwelwyr e.e. celf, cerddoriaeth, barddoniaeth, chwaraeon.
- Defnyddio technoleg ddigidol.
- Atgyfnerthu’r angen i’r ddwy olwyn weithredu!
Beth yw’r manteision?
- Mae’n haws i’r rhai sy’n siarad dwy iaith i ddysgu ieithoedd eraill.
- Mae ymchwil hefyd yn pennu bod disgyblion dwyieithog yn dueddol o wneud yn well mewn pynciau eraill yn yr ysgol.
- Mae mwy o swyddi nag erioed o’r blaen yng Nghymru yn gofyn am sgiliau dwyieithog. Mae’r Gymraeg yn ased gwerthfawr yn y gweithle
- Ar gyfartaledd, mae plant dwyieithog yn cyflawni canlyniadau profion Saesneg uwch ac arholiadau na phlant sy’n siarad un iaith yn unig.
Rôl y llywodraethwyr
Mae ein corff Llywodraeth yn:-
- Cymryd rhan weithredol yn ei weithredu. Mae gennym lywodraethwr penodedig ar gyfer cefnogi Siarter Iaith
- Cefnogi’r Cyngor Ysgol.
- Defnyddio’r iaith Gymraeg lle bo modd yn ystod ymweliadau ysgol.
- Dathlu llwyddiannau ysgol.
- Mynychu gweithgareddau i hyrwyddo’r iaith Gymraeg.
- Cefnogi Cyngor yr Ysgol wrth hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned leol.
CAM 1 – EFYDD
- Mae’r disgyblion yn ymwybodol o’r siarter.
- Fe’i cynhwysir ar agenda Cyngor yr Ysgol yn gyson.
- Hysbyswyd y rhieni am y Siarter.
- Rhoddir cyfarwyddyd i rieni ar sut / ble i ddysgu Cymraeg yn y gymuned.
- Mae gan y llywodraethwyr rôl weithredol wrth gefnogi’r siarter gydag un rôl arweiniol llywodraethwyr penodol.
- Mae’r gweithlu’n cydweithio i hyrwyddo gweledigaeth yr ysgol ar gyfer hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.
CAM 2 – ARIAN
- Parhau i atgyfnerthu amcanion y Siarter ar draws yr Ysgol.
- Datblygu’r defnydd o’r Gymraeg ar yr iard.
- Cyd-weithio gyda Menter Sir Gâr i hybu’r defnydd o’r Gymraeg.
- Trefnu noson rhieni i hyrwyddo ymwybyddiaeth o werth y Gymraeg.
CAM 3 – AUR
Wrth anelu am yr aur dyma ein targedau:-
- Codi hyder y disgyblion yn eu iaith a chodi niferoedd y plant sy’n defnyddio’r Gymraeg yn gyson gyda’i ffrindiau yn y Dosbarth a thu hwnt.
- Codi ymwybyddiaeth y disgyblion o ganeuon cherddoriaeth Gymraeg.
- Datblygu ymwybyddiaeth y disgyblion o raglenni Cymraeg ar S4C a fideos Cymraeg ar YouTube.
- Pob disgybl i ddarllen a mwynhau llyfrau Cymraeg fel rhan o’u diwrnod Ysgol yn y ddwy ffrwd.