Ysgol Iach

Cynllun Hybu Iechyd

Cynllun Hybu Iechyd Sir Gaerfyrddin 

Mae Ysgol Griffith Jones yn Ysgol Iach swyddogol, sy’n  hyrwyddo ac yn annog ffordd iach o fyw fel un o’i phrif blaenoriaethau. Llwyddodd y plant,staff a’r gymuned  fwynhau dysgu a manteisio wrth weithredu nifer o brosiectau’r sy’n glwm wrth y cynllun. 

Mae’r Prosiect yn rhan o gynllun Sefydliad Iechyd Y Byd,”Rhwydwaith Ewropiaidd o Ysgolion sy’n Hybu Iechyd”.

Mae’r prosiect yn edrych ar ffyrdd y gall ysgolion gyfrannu at iechyd disgyblion,athrawon a’r gymuned ehangach drwy ddatblygu amgylchoedd o fewn ysgolion sy’n hybu iechyd. 

Mewn ysgol sy’n hybu iechyd: 

  • caiff iechyd ei ddysgu drwy’r cwricwlwm ffurfiol.
  • mae ysytriaethau iechyd yn treiddio drwy’r cwricwlwm cudd neu drwy ethos yr ysgol.
  • datblygir cysylltiadau rhwng y cartref, yr ysgol a’r gymuned gyfagos.

Derbyniwyd pedair deilen (lefel) gan Ysgol Griffith Jones yn barod a byddwn yn derbyn y bumed deilen yn ystod Tymor yr Haf eleni.

Lefel 1:

Yr Amgylchfyd e.e 

  • rhan o gynllun eco-sgolion.(llunio pwyllgor Eco)
  • asesu a gwella ailgylchu tu fewn yr ysgol.(cynyddu nifer o finiau sbwriel,ailgylchu cardiau Nadolig,papur,plastig,ffonau symudol a chartrisenni inc).
  • perthyn i brosiect “Big Arts Week”(llunio baneri ffabrig)

Hybu Ffitrwydd 

  • Gweithgareddau all-gyrsiol (Urdd, gweithgareddau awyr agored,Campau’r Ddraig, tenis, golff)
  • sefydlu bocs adnoddau chwaraeon amser egwyl.

Lefel 2:

Gweithgareddau ymestynnol ar yr Amgylchfyd 

  • parhad a chynyddu ar nifer o weithgareddau ailgylchu yr ysgol
  • gwelliannau i gyfleusterau cegin plant a staff.
  • adeiladu yr ystafell allanol

Iechyd a lles yr ysgol

  • sefydlu Cyngor Ysgol
  • amrywiaeth o weithgareddau elusennol
  • amser cylch

Lefel 3:


Diogelwch 

  • datblygiad gwybodaeth staff – Cwrs Arlwyo lefel 2
  • ymweliad nyrs yr ysgol
  • cynllun”Heartstart”
  • perthyn i Gynllun Heddlu Cymru Gyfan

Sylwebyddion 

  • adolygu polisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol.
  • mewnbwn y Cynulliad ar beryglon ysmygu ( Bagiau Baco)
  • gweithgareddau o’r we.
  • perthyn i Gynllun Heddlu Cymru Gyfan

Lefel 4:  

Maeth 

  • Integreiddio gywbodaeth ar faeth i’r cwricwlwm
  • Gwella deallusrwydd o ran ffeithiau maeth (plat bwyd, bwyta’n iach a defnyddio’r bocs ‘Cook it.’)
  • Cyflwyno  Masnach Deg i’r plant
  • Gweithgareddau arbenning sy’n gysylltiedig â bwyd  (siop ffrwythau, ‘Gwener Gwasgu’ – “smoothies” a datblygu’r ardd)

Lefel 5:  

Hylendid 

  • Creu a datblygu polisi hylendid yr ysgol
  • Codi ymwybyddiaeth y disgyblion o bwysigrwydd golchi dwylo (cynnal cystadleuaeth posteri)
  • Gwella hylendid y toiledau (rota gwirio hylendid)
  • Integreiddio gywbodaeth ar hylendid i’r cwricwlwm (firysau, paratoi ffrwythau a man cadw bwyd)
  • Codi ymwybyddiaeth y staff o hylendid
  • Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd glanhau dannedd (ymweliad gan ddeintydd)

Mae ein gweithgareddau iechyd yn rhan annatod o addysg ein plant sy’n creu agwedd mwy cyfrifol  ac ysbrydoledig tuag at ddyfodol sy’n gofalu.