Cynllun Hybu Iechyd
Cynllun Hybu Iechyd Sir Gaerfyrddin
Mae Ysgol Griffith Jones yn Ysgol Iach swyddogol, sy’n hyrwyddo ac yn annog ffordd iach o fyw fel un o’i phrif blaenoriaethau. Llwyddodd y plant,staff a’r gymuned fwynhau dysgu a manteisio wrth weithredu nifer o brosiectau’r sy’n glwm wrth y cynllun.
Mae’r Prosiect yn rhan o gynllun Sefydliad Iechyd Y Byd,”Rhwydwaith Ewropiaidd o Ysgolion sy’n Hybu Iechyd”.
Mae’r prosiect yn edrych ar ffyrdd y gall ysgolion gyfrannu at iechyd disgyblion,athrawon a’r gymuned ehangach drwy ddatblygu amgylchoedd o fewn ysgolion sy’n hybu iechyd.
Mewn ysgol sy’n hybu iechyd:
- caiff iechyd ei ddysgu drwy’r cwricwlwm ffurfiol.
- mae ysytriaethau iechyd yn treiddio drwy’r cwricwlwm cudd neu drwy ethos yr ysgol.
- datblygir cysylltiadau rhwng y cartref, yr ysgol a’r gymuned gyfagos.
Derbyniwyd pedair deilen (lefel) gan Ysgol Griffith Jones yn barod a byddwn yn derbyn y bumed deilen yn ystod Tymor yr Haf eleni.
Lefel 1:
Yr Amgylchfyd e.e
- rhan o gynllun eco-sgolion.(llunio pwyllgor Eco)
- asesu a gwella ailgylchu tu fewn yr ysgol.(cynyddu nifer o finiau sbwriel,ailgylchu cardiau Nadolig,papur,plastig,ffonau symudol a chartrisenni inc).
- perthyn i brosiect “Big Arts Week”(llunio baneri ffabrig)
Hybu Ffitrwydd
- Gweithgareddau all-gyrsiol (Urdd, gweithgareddau awyr agored,Campau’r Ddraig, tenis, golff)
- sefydlu bocs adnoddau chwaraeon amser egwyl.
Lefel 2:
Gweithgareddau ymestynnol ar yr Amgylchfyd
- parhad a chynyddu ar nifer o weithgareddau ailgylchu yr ysgol
- gwelliannau i gyfleusterau cegin plant a staff.
- adeiladu yr ystafell allanol
Iechyd a lles yr ysgol
- sefydlu Cyngor Ysgol
- amrywiaeth o weithgareddau elusennol
- amser cylch
Lefel 3:
Diogelwch
- datblygiad gwybodaeth staff – Cwrs Arlwyo lefel 2
- ymweliad nyrs yr ysgol
- cynllun”Heartstart”
- perthyn i Gynllun Heddlu Cymru Gyfan
Sylwebyddion
- adolygu polisi Iechyd a Diogelwch yr ysgol.
- mewnbwn y Cynulliad ar beryglon ysmygu ( Bagiau Baco)
- gweithgareddau o’r we.
- perthyn i Gynllun Heddlu Cymru Gyfan
Lefel 4:
Maeth
- Integreiddio gywbodaeth ar faeth i’r cwricwlwm
- Gwella deallusrwydd o ran ffeithiau maeth (plat bwyd, bwyta’n iach a defnyddio’r bocs ‘Cook it.’)
- Cyflwyno Masnach Deg i’r plant
- Gweithgareddau arbenning sy’n gysylltiedig â bwyd (siop ffrwythau, ‘Gwener Gwasgu’ – “smoothies” a datblygu’r ardd)
Lefel 5:
Hylendid
- Creu a datblygu polisi hylendid yr ysgol
- Codi ymwybyddiaeth y disgyblion o bwysigrwydd golchi dwylo (cynnal cystadleuaeth posteri)
- Gwella hylendid y toiledau (rota gwirio hylendid)
- Integreiddio gywbodaeth ar hylendid i’r cwricwlwm (firysau, paratoi ffrwythau a man cadw bwyd)
- Codi ymwybyddiaeth y staff o hylendid
- Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd glanhau dannedd (ymweliad gan ddeintydd)
Mae ein gweithgareddau iechyd yn rhan annatod o addysg ein plant sy’n creu agwedd mwy cyfrifol ac ysbrydoledig tuag at ddyfodol sy’n gofalu.